Lleoliad:
Fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd
Llun, 5 Mehefin 2023
Amser:
13.31 -
14.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13369
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
2.1 SL(6)359 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
2.2 SL(6)361 – Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Nododd y Pwyllgor hefyd y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Llywydd.
2.3 SL(6)360 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. Nododd y Pwyllgor hefyd y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
3.1 SL(6)356 – Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 - trafodwyd eisoes
4.1 SL(6)357 – Y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
5 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
5.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rheoliadau Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) (Ymadael â’r UE) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Gohebiaeth gan Peter Fox AS: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Bil Bwyd (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Peter Fox AS.
6.2 Gohebiaeth gan Peter Fox AS at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y Bil Bwyd (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Peter Fox AS at y Pwyllgor Cyllid.
6.3 Gohebiaeth gan Peter Fox AS at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Ymateb i adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Bil Bwyd (Cymru)
Nododd y Pwyllgor lythyr gan Peter Fox AS at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.
6.4 Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Bil Bwyd (Cymru)
Nododd y Pwyllgor lythyr gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Gweinidog.
6.5 Gohebiaeth â’r Pwyllgor Busnes: Y Bil Bwyd (Cymru)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Pwyllgor Busnes.
6.6 Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Datganiad ar gynnydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
6.7 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
6.8 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog.
6.9 Gohebiaeth gan y Groes Goch Brydeinig: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Groes Goch Brydeinig.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd arno.
10 Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Trafododd y Pwyllgor hefyd yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
11 Trafod gohebiaeth mewn cysylltiad â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
12 Adroddiad monitro
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad monitro diweddaraf.
13 Blaenraglen waith
Trafododd y Pwyllgor gylch gorchwyl ar gyfer comisiynu ymchwil ar y defnydd o ddeddfwriaeth fframwaith a’i oblygiadau ar gyfer craffu seneddol, a chytunodd ar y cylch gorchwyl.
Made Negative Resolution Instruments
Made Negative Resolution Instruments
Affirmative Resolution Instruments